Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn chwilio am weithwyr proffesiynol medrus, llawn cymhelliant, gweithwyr profiadol neu'r rhai sydd newydd gymhwyso ym maes gwaith cymdeithasol a all greu newidiadau cadarnhaol yn y teuluoedd a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Os ydych chi'n rhagori mewn lleoliad llawn dychymyg sy'n canolbwyntio ar y plentyn, efallai mai dyma'r cyfle iawn i chi.
Cyflogau sy'n cyd-fynd â phrofiad
• Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol profiadol, gyda lleiafswm o 3 blynedd o brofiad ar ôl cymhwyso. Byddwch yn bodloni gofynion Lefel 3 y disgrifiad swydd.
• Byddwch eich cyflog rhwng £40,777 a £44,075 yn dibynnu ar eich profiad.
Mae'r tîm yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chefnogaeth, plant sydd angen eu hamddiffyn, Plant sy'n Derbyn Gofal a phlant sy'n agored i Achosion Cyfreithiol Cyhoeddus a Phreifat. Mae'r tîm yn ymdrin â rhywfaint o gyfraith breifat, fodd bynnag, caiff Achosion eu trosglwyddo i'n tîm cyfreithiol arbenigol ar y pwynt Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus.
Un o'n prif nodau yw lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal - oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol. Er mwyn cyflawni hyn mae gennym adran hynod ymroddedig o weithwyr cymdeithasol, a gefnogir gan y Tîm Cefnogi Teuluoedd sydd wedi ennill gwobrau yn ogystal â gweithwyr ymyriadau teuluol a seicolegwyr mewnol, Therapyddion Galwedigaethol ASD a gweithwyr therapiwtig. Yn ogystal â hyn, fel Gweithiwr Cymdeithasol gallwch dynnu ar gefnogaeth un/dwy uned breswyl fewnol sydd â gweithwyr allgymorth sy'n gallu cefnogi plant naill ai gartref neu mewn lleoliad.
Mae datblygu gyrfa yn bwysig i Gonwy ac mae yna lwybr clir ar gyfer datblygiad i weithwyr sydd newydd gymhwyso neu sy'n fwy profiadol e.e. CPEL/Porth Agored a Hyfforddiant Cydymchwiliad gyda'r Heddlu. Bydd cefnogaeth ar gael drwy oruchwyliaeth ffurfiol reolaidd a bydd goruchwyliaeth anffurfiol, Adolygiadau Datblygu Personol a chyfleoedd Datblygu Gyrfa ar gael drwy Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus ar gyfer swyddi parhaol.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gydweithio gyda theuluoedd ac annog Gwaith Uniongyrchol nid Gwaith Papur gymaint â phosibl.
Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais rhaid i chi fod ag BA/MA mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster gwaith cymdeithasol cyfwerth, CQSW neu DipSW. Yn ddelfrydol bydd ymgeiswyr wedi cael profiad ar ôl cymhwyso mewn gweithio gyda phlant a theuluoedd a byddai'n fanteisiol petai gan ymgeiswyr brofiad o weithio yn y llys ar gyfer swydd gyda'r Tîm Diogelu a Chyfreithiol.
Mae'n hanfodol bod deiliad y swydd yn gallu teithio ledled y Sir yn rheolaidd, yn aml i ac o leoliadau anghysbell ar fyr rybudd.
Sylwch nad ydym yn sefydliad noddi ar hyn o bryd.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Mark Devereux, Rheolwr Adain ( / )
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Conwy County Borough Council is looking for skilled, motivated professionals, experienced workers or those newly qualified within social work who can create positive changes in the families and communities they serve. If you excel in a child-focused and imaginative setting, this might be the right opportunity for you.
Salaries that fit with experience
We are seeking experienced social workers, with a minimum of 3 Years Post-Qualifying Experience. You will meet the Level 3 requirements of the job description.
The team is responsible for delivering services to children in need of care and support, children in need of protection, Looked After Children and children who are subject to Public & Private Law Proceedings. The team does do some Private Law; however, cases transfer to our specialist legal team at point of Public Law Outline.
A key aim is to reduce the number of children who become looked after - unless absolutely necessary. To achieve this we have an extremely dedicated section of social workers, supported by the award-winning Supporting Families Team as well as embedded family intervention workers and in house psychologists, ASD Occupational Therapists and therapeutic workers. Further to this as a Social Worker you are able to draw on the support of one/two in house residential units who have outreach workers able to support children either at home or in placement.
Career development is important to Conwy. There is a clear pathway for progression for both newly qualified as well as more experienced workers i.e. CPEL/Porth Agored and Joint Investigation Training with the Police. Support will be available through regular formal supervision, informal supervision and Career Development opportunities through CPEL for permanent posts.
Conwy is committed to collaborative working with families and will encourage Direct Work not paperwork as much as possible.
In order to be eligible to apply you must hold a recognised Social Work Qualification - BA/MA, CQSW or DipSW. Ideally applicants will have post qualifying experience in working with Children and Families.
It is essential that the post holder has the ability to travel throughout the County on a regular basis, often to and from remote locations at short notice.
Please note that we are not currently a Sponsoring Organisation.
Manager details for informal discussion: Mark Devereux, Section Manager ( / )
Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is desirable for this post.