SOLICITOR - LITIGATION TEAM HOUSING

  • CARDIFF COUNTY COUNCIL
  • Feb 14, 2026
Full time Legal

Job Description

An opportunity for a Housing Solicitor has become available and we seek a candidate with relevant experience to join the Council's the Litigation Team. This motivated and highly professional team is looking for an individual with experience and interest in the work of a Local Government litigation team.

The post will include dealing with housing possession work, ASB injunctions, trespass proceedings, defending disrepair claims, and day to day advice on client housing enquiries but will also include the ability to get involved with other areas of work relating to litigation, subject to the applicant's experience, career interests, and workload capacity.

The successful applicant will need to be admitted as a solicitor or called to the bar and must be able to work as part of a team.

We expect the individual appointed to take personal responsibility for delivering excellence, to work with others to achieve the best possible outcomes, to embrace change and new opportunities, to make the most of the resources available and to think and act in the best interests of the Council.

Mae cyfle wedi codi ar gyfer Cyfreithiwr Tai ac rydym yn chwilio am ymgeisydd â phrofiad perthnasol i ymuno â Thîm Ymgyfreitha'r Cyngor. Mae'r tîm brwdfrydig a hynod broffesiynol hwn yn chwilio am unigolyn sydd â phrofiad a diddordeb yng ngwaith tîm ymgyfreitha Llywodraeth Leol.

Bydd y swydd yn cynnwys delio â gwaith meddiant tai, gwaharddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol, achosion tresmasu, amddiffyn hawliadau atgyweirio, a chyngor o ddydd i ddydd ar ymholiadau tai cleientiaid, ond bydd hefyd yn cynnwys y gallu i gymryd rhan mewn meysydd gwaith eraill sy'n ymwneud ag ymgyfreitha, yn amodol ar brofiad yr ymgeisydd, diddordebau gyrfa, a gallu llwyth gwaith.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod wedi'i dderbyn fel cyfreithiwr neu ei alw i'r bar a rhaid iddo allu gweithio'n rhan o dîm.

Disgwyliwn i'r unigolyn a benodir gymryd cyfrifoldeb personol am sicrhau rhagoriaeth, gweithio gydag eraill i gyflawni'r canlyniadau gorau posib, ymateb yn gadarnhaol i newid a chyfleoedd newydd er mwyn manteisio i'r eithaf ar yr adnoddau sydd ar gael a meddwl a gweithredu gyda golwg ar hyrwyddo buddiannau'r Cyngor.