Rydym yn recriwtio Cyfarwyddwr Anweithredol (Cyllid) ar gyfer Partneriaeth Actif Canolbarth y De.
Mae PACD yn gweithredu fel cwmni cyfyngedig drwy warant, dan fframwaith llywodraethu cadarn a thryloyw. Wrth graidd y strwythur hwn mae Bwrdd Cyfarwyddwyr medrus, cynhwysol ac amrywiol a fydd yn gweithio gyda'n partneriaid er mwyn llywio a gweithredu ein cyfeiriad strategol.
Manylion Allweddol
- Yr ymrwymiad amser a amcangyfrifir ar hyn o bryd yw 0.5 - 1.0 diwrnod y mis.
- Amlder cyfarfodydd: Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd wyneb yn wyneb ac mae opsiwn i gael mynediad o bell. Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd bob dau fis ac fel arfer byddant yn para am 2 awr.
- Cyfnod: Y cyfnod yn y swydd yw 3 blynedd. Ni chaiff unrhyw Gyfarwyddwr Anweithredol wasanaethu am fwy na dau gyfnod olynol o 3 blynedd yn y swydd.
- Cydnabyddiaeth: Gwirfoddol. Telir costau teithio a chynhaliaeth ar ein cyfraddau safonol yn unol 'n Polisi Teithio a Chynhaliaeth.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Darparu arweinyddiaeth strategol effeithlon ac effeithiol i Bartneriaeth Actif Canolbarth y De (PACD).
- Cynnal a gweithio tuag at weledigaeth, cenhadaeth, gwerthoedd, ymddygiadau, ac amcanion PACD a sicrhau bod y sefydliad yn parhau i weithio tuag at y rhain.
- Sicrhau bod PACD yn cydymffurfio gofynion cyfreithiol a llywodraethol perthnasol.
- Hybu dulliau darbodus ac effeithiol o reoli adnoddau'r sefydliad (ariannol a dynol).
- Sicrhau bod strategaethau a pholis au yn eu lle a fydd yn cefnogi amcanion PACD.
- Hyrwyddo gwaith PACD a gweithredu fel llefarydd i PACD os bydd angen.
- Darparu cyfeiriad ariannol strategol er mwyn cynorthwyo PACD i gyflawni ei amcanion strategol.
- Darparu cyfeiriad strategol er mwyn sicrhau bod PACD yn gadarn o safbwynt ariannol ac yn gynaliadwy.
- Sicrhau bod PACD yn cydymffurfio'n llwyr ag unrhyw rwymedigaethau statudol a rheoleiddiol.
- Y gallu i weithredu phroffesiynoldeb a gonestrwydd.
Gofynion Hanfodol
- Ymrwymiad i degwch, cynhwysiant, ac amrywiaeth.
- Y gallu i feddwl yn strategol.
- Profiad o arweinyddiaeth ariannol yn dangos cyfrifoldeb am arwain, llywio neu gyfrannu at strategaeth ariannol, stiwardiaeth a llywodraethiant y sefydliad.
- Profiad o sganio'r gorwel ariannol a chynllunio hirdymor er mwyn cefnogi gwneud penderfyniadau.
- Y gallu i ddarparu mewnwelediad ariannol er mwyn llywio penderfyniadau buddsoddi a fydd yn cefnogi twf cynaliadwy a chreu gwerth.
- Y gallu i gyfathrebu gwybodaeth ariannol yn glir ac yn gryno i randdeiliaid anariannol.
Dewch o hyd i'r pecyn ymgeisydd llawn ar ein gwefan
Suit i ymgeisio
Cofiwch, fel rhan o'ch cais, bydd gofyn i chi ddarparu'r canlynol:
- CV wedi'i ddiweddaru
- Datganiad ategol (dim mwy nag un dudalen) yn amlinellu pam rydych yn dymuno ymuno 'r bartneriaeth a pham rydych yn ymgeisydd credadwy, gan gyfeirio at fanyleb y person.
Dyddiad Cau: Hanner nos 11 Mawrth
Dyddiad Cyfweld: 1 Ebrill 2026
Acorn by Synergie acts as an employment agency for permanent recruitment.